The Record (Word doc, 27MB)



Yüklə 0,72 Mb.
səhifə6/22
tarix24.12.2017
ölçüsü0,72 Mb.
#35878
1   2   3   4   5   6   7   8   9   ...   22

Jonathan Morgan: Minister, I will return to the issue of the boiler scrappage scheme for Wales. I have written to you about this issue. We have to accept that large numbers of people in Wales were confused for some time, simply because a lot of the press coverage was delivered through the UK media, which has a greater reach in certain parts of Wales than some of the Welsh media, I am afraid. The UK Government made the announcement in the pre-budget report on 9 December, but we were still uncertain on 12 January, when the First Minister faced questions, about the extent of the boiler scrappage scheme. On 13 January, you said that £4 million would be made available as a result of the scheme in England. During that period, some of my own constituents spent large sums of money upgrading their boilers, some of whom are elderly people who can ill afford to spend large sums of money to do that work. Accordingly, you may find that a good number of people throughout Wales have been financially disadvantaged because of the level of confusion and uncertainty. Is it possible—it may not be, but I would like to put this on the record in asking you—for the Assembly Government to consider extending the scheme so that some issues may be looked at retrospectively?


Jonathan Morgan: Weinidog, dychwelaf at fater y cynllun sgrapio boeleri ar gyfer Cymru. Yr wyf wedi ysgrifennu atoch am y mater hwn. Rhaid inni dderbyn bod nifer mawr o bobl yng Nghymru wedi drysu am gyfnod, oherwydd bod llawer o’r sylw yn y wasg wedi’i gyflwyno drwy gyfryngau’r DU, sy’n cyrraedd ymhellach mewn rhai rhannau o Gymru na rhai o’r cyfryngau Cymreig, mae arnaf ofn. Gwnaeth Llywodraeth y DU y cyhoeddiad yn yr adroddiad rhag-gyllidebol ar 9 Rhagfyr, ond yr oeddem yn dal yn ansicr ynghylch hyd a lled y cynllun sgrapio boeleri ar 12 Ionawr, pan wynebodd y Prif Weinidog gwestiynau. Ar 13 Ionawr, yr oeddech yn dweud y byddai £4 miliwn ar gael o ganlyniad i’r cynllun yn Lloegr. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gwariodd rhai o’m hetholwyr i arian mawr yn uwchraddio’u boeleri. Mae rhai ohonynt yn bobl hŷn a phrin y gallant fforddio gwario arian mawr ar wneud y gwaith hwnnw. Felly, efallai y gwelwch fod nifer mawr o bobl ledled Cymru wedi cael eu rhoi dan anfantais ariannol oherwydd lefel y dryswch a’r ansicrwydd. A yw’n bosibl—efallai na fydd yn bosibl, ond hoffwn i hyn gael ei gofnodi drwy ofyn ichi—i Lywodraeth y Cynulliad ystyried ymestyn y cynllun fel y gellir edrych ar rai materion yn ôl-weithredol?

Jane Davidson: You are right, Jonathan: we can never look at issues retrospectively. It is important to say that, where the scheme has started in England, it is being implemented using existing funds that have been redirected. That has been very clear. Formally, the boiler scrappage scheme in England using new money—the same new money that was given to the Assembly Government—starts on 1 April. They were able to use some of the money they had in other budgets in the context of starting earlier.


Jane Davidson: Yr ydych yn iawn, Jonathan: ni allwn fyth edrych ar faterion yn ôl-weithredol. Mae’n bwysig dweud bod y cynllun, lle mae wedi dechrau yn Lloegr, yn cael ei weithredu gan ddefnyddio cronfeydd presennol sydd wedi eu hailgyfeirio. Mae hynny wedi bod yn glir iawn. Yn ffurfiol, bydd y cynllun sgrapio boeleri yn Lloegr sy’n defnyddio arian newydd—yr un arian newydd ag a roddwyd i Lywodraeth y Cynulliad—yn dechrau ar 1 Ebrill. Yr oeddent wedi gallu defnyddio rhywfaint o’r arian a oedd ganddynt mewn cyllidebau eraill yng nghyd-destun dechrau’n gynharach.


What we have to say here is that we have had a warm response to two elements of our scheme. We had an opportunity to look at the English announcement and its applicability to Wales. We know that we have more pensioners who are fuel poor, so targeting the scheme effectively on pensioners has been met with warm support. Of course, we have also lifted by £100 the contribution from Government here. I am to make an announcement shortly about the mechanisms for application, and we have been working closely with the companies to ensure that some benefits similar to those in England in matching the boiler scrappage scheme Government money with money from the companies will be replicated here in Wales.


Yr hyn y mae’n rhaid inni ei ddweud yma yw ein bod wedi cael ymateb brwd i ddwy elfen yn y cynllun. Cawsom gyfle i edrych ar y cyhoeddiad yn Lloegr a gweld mor berthnasol a fyddai i Gymru. Gwyddom fod gennym fwy o bensiynwyr sy’n dlawd o ran tanwydd, felly, bu cefnogaeth frwd i’r bwriad o dargedu’r cynllun yn effeithiol at bensiynwyr. Wrth gwrs, yr ydym wedi cynyddu’r cyfraniad gan y Llywodraeth yma £100. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad cyn hir am y systemau ar gyfer cyflwyno ceisiadau, ac yr ydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r cwmnïau i sicrhau y bydd rhai manteision tebyg i’r rheini yn Lloegr i’w cael yng Nghymru hefyd o ran bod y cwmnïau’n darparu swm o arian sy’n cyfateb i’r swm a delir o gynllun y Llywodraeth i sgrapio boeleri.


Alun Davies: In discussing your priorities for the next few months, Minister, the statement that you made earlier this week on the low carbon energy programme sets out your priorities and those of this Government for the next generation, and that is welcomed across the Chamber.


Alun Davies: Wrth drafod eich blaenoriaethau ar gyfer yr ychydig fisoedd nesaf, Weinidog, mae’r datganiad a wnaethoch yn gynharach yr wythnos hon am y rhaglen ynni carbon isel yn egluro’ch blaenoriaethau chi a blaenoriaethau’r Llywodraeth hon ar gyfer y genhedlaeth nesaf, a chroesewir hynny ar draws y Siambr.


In the statement that you made on Monday for achieving our targets for low carbon energy generation, I think you said that it would be 40 per cent marine, a third from wind, and the rest from a number of other sources. Will you assure me that you are working closely with the Deputy Minister for Science, Innovation and Skills, Lesley Griffiths, with Leighton Andrews in education, and with the Deputy First Minister to ensure that we have the skills and the ability in place to ensure that this policy drives not only our targets for sustainability and low carbon energy generation, but our economy by creating the reality of a green economy and jobs for the future?


Yn y datganiad a wnaethoch ddydd Llun am gyrraedd ein targedau ar gyfer cynhyrchu ynni carbon isel, credaf ichi ddweud y byddai 40 y cant yn dod o’r môr, traean o’r gwynt, a’r gweddill o nifer o ffynonellau eraill. A wnewch fy sicrhau eich bod yn gweithio’n agos gyda’r Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau, Lesley Griffiths, gyda Leighton Andrews ym maes addysg, a chyda’r Dirprwy Brif Weinidog i sicrhau bod gennym y sgiliau a’r gallu i sicrhau bod y polisi hwn yn gyrru nid yn unig ein targedau ar gyfer cynaliadwyedd a chynhyrchu ynni carbon isel, ond hefyd ein heconomi drwy greu realiti economi werdd a swyddi ar gyfer y dyfodol?

Jane Davidson: That statement that we made on Monday on the document ‘A Low Carbon Revolution’ was clear about the fact that the prime energy agenda, before we start on how we generate energy, is to do with energy efficiency. There is a big push on energy efficiency, and you have seen that in the work being done throughout the whole of the department, including the work that Jocelyn is doing. You are also seeing it in work across the whole of the Assembly Government, and that will come in big time this year with the introduction of the new carbon reduction commitment that will operate across Wales for bigger organisations.


Jane Davidson: Yr oedd y datganiad hwnnw a wnaethom ddydd Llun am y ddogfen ‘Chwyldro Carbon Isel’ yn glir am y ffaith bod y brif agenda ynni, cyn inni ddechrau ar y modd yr ydym yn cynhyrchu ynni, yn ymwneud ag effeithlonrwydd ynni. Mae ymdrech fawr yn cael ei gwneud ar effeithlonrwydd ynni, ac yr ydych wedi gweld hynny yn y gwaith sy’n cael ei wneud trwy’r adran i gyd, gan gynnwys y gwaith y mae Jocelyn yn ei wneud. Yr ydych hefyd yn ei weld mewn gwaith ar draws Llywodraeth y Cynulliad i gyd, a bydd hynny’n dod yn amlwg iawn eleni pan gyflwynir yr ymrwymiad newydd i leihau carbon a fydd yn gweithredu ledled Cymru ar gyfer sefydliadau mwy.


The next element of the strategy is about renewables as a safe, local, indigenous agenda. We will be looking to revise the TAN 8 targets upwards on the basis of the potential identified. I would emphasise to the Assembly that knowing that we could produce twice as much electricity as we currently consume—as we have laid out in ‘A Low Carbon Revolution’—is the potential. It is up to this Government and future Governments to make sure that this potential is realised.


Mae elfen nesaf y strategaeth yn ymwneud ag ynni adnewyddadwy fel agenda ddiogel, leol a brodorol. Byddwn yn gobeithio adolygu targedau TAN 8 am i fyny ar sail y potensial a nodwyd. Hoffwn bwysleisio wrth y Cynulliad mai gwybod y gallem gynhyrchu dwywaith cymaint o drydan ag yr ydym yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd—fel yr ydym wedi’i nodi yn ‘Chwyldro Carbon Isel’—yw’r potensial. Y Llywodraeth hon a Llywodraethau’r dyfodol a fydd yn gorfod sicrhau bod y potensial hwn yn cael ei wireddu.


Lesley Griffiths can tell you that we met only last week to consider the skills element in this agenda. It is not just about the usual supply side discussions that I would normally have with Leighton Andrews; it is the demand side.


Gall Lesley Griffiths ddweud wrthych ein bod wedi cyfarfod mor ddiweddar â’r wythnos diwethaf i ystyried yr elfen sgiliau yn yr agenda hon. Mae’n golygu nid yn unig y trafodaethau arferol am yr elfen gyflenwi y byddwn yn eu cael gyda Leighton Andrews fel arfer; mae hefyd yn golygu elfen y galw.


The third element of the strategy is that of delivering on the green jobs agenda and contributing to the Deputy First Minister’s economic renewal programme.


Trydedd elfen y strategaeth yw darparu’r agenda swyddi gwyrdd a chyfrannu at raglen y Dirprwy Brif Weinidog ar adnewyddu’r economi.

Michael German: I, too, thank you for your energy policy statement. I will dwell on the issue of renewables, which you have just mentioned. Of course, one judges a target for the future on the ability to achieve it. I have no problem with hard and harsh targets or with reaching and receiving them, but I wonder whether you will be able to tell us when you will have failed to meet the 2010 target, which was, if you remember, to have 10 per cent of our electricity generated from renewable sources. You have failed to meet that target considerably. What will be different in the next 15 years, given that you have failed to achieve by 2010?


Michael German: Yr wyf fi hefyd yn diolch ichi am eich datganiad ar y polisi ynni. Yr wyf am aros gyda phwnc ynni adnewyddadwy, fel yr ydych newydd ei grybwyll. Wrth gwrs, bydd rhywun yn barnu targed ar gyfer y dyfodol ar y gallu i’w gyrraedd. Nid wyf yn gwrthwynebu targedau anodd a llym na’u cyrraedd a’u cael, ond tybed a fyddwch yn gallu dweud wrthym pan fyddwch wedi methu â chyrraedd targed 2010, sef, os cofiwch, sicrhau bod 10 y cant o’n trydan yn cael ei gynhyrchu o ffynonellau adnewyddadwy. Yr ydych wedi methu â chyrraedd y targed hwnnw o bell ffordd. Beth fydd yn wahanol yn y 15 mlynedd nesaf, o gofio’ch bod wedi methu â’i gyrraedd erbyn 2010?


2.40 p.m.





Jane Davidson: You have obviously not read the document, because it in no way says that there is a target. It says that there is the potential to deliver twice the amount of electricity that we consume as a nation via the sea, wind source, biomass and other potential. It is clear in the sense of saying that it is about the potential. You raised the point about targets for 2010, but if you look at what is consented in the planning system at the moment and the ambition in the planning system that is going before the Infrastructure Planning Commission, we will talk at the end of the year about the delivery of the potential in Wales for now in the context of targets, because, of course, we are only in March.


Jane Davidson: Mae’n amlwg nad ydych wedi darllen y ddogfen, oherwydd nid yw’n dweud mewn unrhyw ffordd bod yna darged. Mae’n dweud bod potensial i gyflwyno dwywaith cymaint o drydan ag yr ydym yn ei ddefnyddio fel cenedl drwy’r môr, y gwynt, bio-mas a photensial arall. Mae’n glir yn yr ystyr ei fod yn dweud mai’r potensial sy’n bwysig. Codwyd y pwynt gennych am dargedau ar gyfer 2010, ond os edrychwch ar yr hyn y rhoddir caniatâd ar ei gyfer yn y system gynllunio ar hyn o bryd, a’r uchelgais yn y system gynllunio sy’n mynd gerbron y Comisiwn Cynllunio Seilwaith, cawn sgwrs ar ddiwedd y flwyddyn am gyflawni’r potensial yng Nghymru ar gyfer yn awr yng nghyd-destun targedau, oherwydd, wrth gwrs, dim ond mis Mawrth yw hi.


Michael German: You will have to go some to get there by the end of the year, Minister. Turning to page 19 of the report—you say that I have not read it—and the column bearing the heading ‘Annual energy output (TWhr)’, I would be grateful if you could tell us what the annual output in Wales currently is in order to confirm where we are moving from to where we have to reach by 2025, which is the production of 48 TWh annually. On that page, you say that tidal energy will give us 18 TWh by 2022. Which of the schemes that you are currently examining will have the potential to deliver that amount of energy by 2022, when all the evidence suggests that the large-scale barrage that would deliver that sort of output would not be available until 2030?


Michael German: Bydd yn rhaid ichi weithio’n galed i gyrraedd yno erbyn diwedd y flwyddyn, Weinidog. I droi at dudalen 19 yn yr adroddiad—yr ydych yn dweud nad wyf wedi’i ddarllen—a’r golofn dan y pennawd ‘Allbwn ynni blynyddol (TWhr)’, byddwn yn ddiolchgar pe gallech ddweud wrthym beth yw’r allbwn blynyddol yng Nghymru ar hyn o bryd er mwyn cadarnhau o ble’r ydym yn symud i gyrraedd y man y mae’n rhaid inni ei gyrraedd erbyn 2025, sef cynhyrchu 48 TWh bob blwyddyn. Ar y dudalen honno, yr ydych yn dweud y bydd ynni’r llanw yn rhoi 18 TWh inni erbyn 2022. Pa un o’r cynlluniau yr ydych yn eu harchwilio ar hyn o bryd a fydd â’r potensial i sicrhau’r cymaint â hynny o ynni erbyn 2022, pan fydd yr holl dystiolaeth yn awgrymu na fyddai’r morglawdd mawr a fyddai’n cynhyrchu’r math hwnnw o allbwn ar gael tan 2030?


Jane Davidson: I say again that that chart designates the fact that if all the opportunities were realised, it would give us the 48 TWh. In the context of the Severn barrage, those of us who have not made up our mind without an evidence base continue to look at all the opportunities available in relation to the Severn, and that information will come before Government in October.


Jane Davidson: Dywedaf eto fod y siart honno’n dynodi’r ffaith y byddai gwireddu’r holl gyfleoedd sydd ar gael yn rhoi’r 48 TWh inni. Yng nghyd-destun morglawdd afon Hafren, mae’r rheini ohonom nad ydym wedi penderfynu heb sylfaen dystiolaeth yn parhau i edrych ar yr holl gyfleoedd sydd ar gael o ran afon Hafren, a daw’r wybodaeth honno gerbron y Llywodraeth ym mis Hydref.


Tai Rhad ar y Farchnad Agored


Low-cost Market Housing

C8 Gareth Jones: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu tai rhad ar y farchnad agored? OAQ(3)1197(ESH)


Q8 Gareth Jones: Will the Minister make a statement on the delivery of low-cost market housing? OAQ(3)1197(ESH)


Jocelyn Davies: Private sector provision of low-cost market housing can form an important part of meeting the housing requirements of the people of Wales. Under the ‘One Wales’ agreement, the Assembly Government’s priority is the delivery of affordable housing that remains affordable in perpetuity, not just for the first occupier.


Jocelyn Davies: Gall y ffaith bod y sector preifat yn darparu tai rhad ar y farchnad fod yn gyfraniad pwysig at ddiwallu gofynion pobl Cymru am dai. Dan gytundeb ‘Cymru’n Un’, blaenoriaeth Llywodraeth y Cynulliad yw darparu tai fforddiadwy a fydd yn parhau’n dai fforddiadwy am byth, nid ar gyfer y preswylydd cyntaf yn unig.


Gareth Jones: Diolch am yr ateb. Hoffwn ddiolch ichi hefyd am y gwaith yr ydych chi a’ch swyddogion wedi ei wneud dros yr ychydig fisoedd diwethaf gyda mi a gweithwyr proffesiynol lleol ym maes tai yn y sectorau preifat a chyhoeddus ac yn y trydydd sector yn Aberconwy wrth edrych ar y posibiliadau o safbwynt defnyddio cynlluniau rhannu ecwiti fel ffordd o sicrhau rhagor o dai fforddiadwy ar y farchnad agored. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnal digwyddiad cyfathrebu arbennig dydd Gwener yma i weithwyr proffesiynol yn y sector i drafod darparu mwy o dai fforddiadwy o bob math. A fyddwch chi neu’ch swyddogion yn y cyfarfod hwnnw, ac a fyddai modd dweud wrth y rhai a fydd yn bresennol am y syniadau newydd y buom yn eu trafod am rannu ecwiti?


Gareth Jones: Thank you for that answer. I should also like to thank you for the work which you and your officials have undertaken over the past few months with me and local professionals in the private and public housing sectors, and in the third sector in Aberconwy in looking at the possibilities of using shared equity schemes as a way of ensuring more affordable housing on the open market. Conwy County Borough Council will hold a special communications event this Friday for professionals in the sector to discuss greater provision of affordable housing of all kinds. Will you or your officials be attending that meeting, and would it be possible for those present to be told about the new ideas which we have been discussing on shared equity?

Jocelyn Davies: I do not think that I was invited, and I am not sure if an official is attending. However, I will check and let you know. The option that we have been speaking about is an intermediate option that involves a housing association or a local authority retaining an equity share of the property. I would be interested in pursuing that in a fully evaluated pilot in an area, so I have asked officials to get in touch with your local authority to see if we can pursue that.


Jocelyn Davies: Nid wyf yn credu imi gael fy ngwahodd, ac nid wyf yn siŵr a fydd swyddog yn bresennol. Fodd bynnag, fe gadarnhaf hynny a rhoddaf wybod ichi. Y dewis yr ydym wedi bod yn siarad amdano yw dewis canolradd lle bydd cymdeithas tai neu awdurdod lleol yn cadw cyfran ecwiti o’r eiddo. Byddai gennyf ddiddordeb mewn edrych ar hynny mewn cynllun peilot wedi’i werthuso’n llawn mewn ardal benodol, felly, yr wyf wedi gofyn i swyddogion gysylltu â’ch awdurdod lleol i weld a allwn edrych ar hynny.


Mark Isherwood: Last September, I visited Heritage Homes in Porthmadog with the director of Coed Cymru and a Conwy county councillor, Merfyn Thomas, with a view to bringing forward this technology as a low-cost market scheme for Conwy. These were modular homes already compliant at level 5 of the sustainable home rating, working on modular technology to bring quality and affordability for developers. I am not here to propose a particular company or supplier, but given the concern that the company raises in its brochure that society faces a housing crisis of epic proportions, what consideration have you given to, and what work are you taking forward with possible Welsh suppliers on modular affordable housing units, to be delivered by social and commercial developers?


Mark Isherwood: Fis Medi y llynedd, ymwelais â Heritage Homes ym Mhorthmadog gyda chyfarwyddwr Coed Cymru a chynghorydd sir o Gonwy, Merfyn Thomas, gyda’r bwriad o gyflwyno’r dechnoleg hon fel cynllun rhad ar y farchnad agored i Gonwy. Tai modiwlar oedd y rhain ac yr oeddent eisoes yn cydymffurfio â lefel 5 ar y raddfa cartrefi cynaliadwy. Yr oeddent yn gweithio ar dechnoleg fodiwlar i ddod ag ansawdd a fforddiadwyedd i ddatblygwyr. Nid wyf yma i gynnig cwmni neu gyflenwr penodol, ond o ystyried y pryder y mae’r cwmni’n ei fynegi yn ei lyfryn fod cymdeithas yn wynebu argyfwng tai enfawr, pa ystyriaeth yr ydych wedi’i rhoi i unedau tai fforddiadwy modiwlar, i gael eu cyflwyno gan ddatblygwyr cymdeithasol a masnachol, a pha waith yr ydych yn ei wneud gyda chyflenwyr posibl o Gymru?


Jocelyn Davies: You are quite right to say that none of us should be here to promote an individual company, and that should be put on the record. I have seen a number of these products, and my officials and I have had discussions with a number of companies. Therefore, I can assure you that we are pursuing that, but if there is a particular scheme that you would like me to visit, I would be grateful if you would write to me about it, Mark.


Jocelyn Davies: Yr ydych yn iawn i ddweud na ddylai’r un ohonom fod yma i hyrwyddo cwmni unigol, a dylid cofnodi hynny. Yr wyf wedi gweld nifer o’r cynnyrch hyn, ac mae fy swyddogion a minnau wedi cael trafodaethau gyda nifer o gwmnïau. Felly, gallaf eich sicrhau ein bod yn edrych ar hynny, ond os oes cynllun penodol yr hoffech imi ymweld ag ef, byddwn yn ddiolchgar pe baech yn ysgrifennu ataf amdano, Mark.

Jenny Randerson: The organisation Centre for Cities recently produced a report that indicated that the preference should be for greenfield development to satisfy the preferences of people who want housing, because apparently only 3 per cent of people would choose to live in a flat as a first choice. We talk about social housing, but the funding provided by the Assembly Government means that, in practice, it is virtually impossible for housing associations to build houses, given the land values in a city the size of Cardiff, and so they resort mainly to building flats. What will you do to address that serious problem and deal with the lack of accommodation for larger families?


Jenny Randerson: Yn ddiweddar, cynhyrchodd y sefydliad Centre for Cities adroddiad yn dangos y dylid ffafrio datblygu safleoedd tir glas i fodloni dewisiadau pobl y mae arnynt angen tai, oherwydd mae’n debyg mai 3 y cant yn unig o bobl fyddai’n dewis byw mewn fflat fel dewis cyntaf. Yr ydym yn sôn am dai cymdeithasol, ond mae’r arian y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei ddarparu yn golygu, yn ymarferol, ei bod bron yn amhosibl i gymdeithasau tai adeiladu tai, o gofio gwerth tir mewn dinas o faint Caerdydd. Felly, maent yn troi’n bennaf at adeiladu fflatiau. Beth fyddwch yn ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem ddifrifol honno ac i ymdrin â’r diffyg llety sydd ar gael i deuluoedd mwy o faint?


Yüklə 0,72 Mb.

Dostları ilə paylaş:
1   2   3   4   5   6   7   8   9   ...   22




Verilənlər bazası müəlliflik hüququ ilə müdafiə olunur ©muhaz.org 2022
rəhbərliyinə müraciət

    Ana səhifə