The Record (Word doc, 27MB)


The Deputy Presiding Officer



Yüklə 0,72 Mb.
səhifə22/22
tarix24.12.2017
ölçüsü0,72 Mb.
#35878
1   ...   14   15   16   17   18   19   20   21   22

The Deputy Presiding Officer: The proposal is that the motion be agreed without amendment. Is there any objection? I see that there is objection. Therefore, the votes will be deferred until voting time.


Y Dirprwy Lywydd: Y cynnig yw bod y cynnig yn cael ei dderbyn heb ei wella. A oes gwrthwynebiad? Gwelaf fod gwrthwynebiad. Felly, gohiriwn y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.


Does anyone wish to have the bell rung? I see that no-one does.


A oes unrhyw Aelod yn dymuno i’r gloch gael ei chanu? Gwelaf nad oes.

Gohiriwyd y pleidleisiau tan y cyfnod pleidleisio.
Votes deferred until voting time.

Cyfnod Pleidleisio
Voting Time

Cynnig NDM4442: O blaid 40, Ymatal 0, Yn erbyn 9.
Motion NDM4442: For 40, Abstain 0, Against 9.



Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:



Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:


Andrews, Leighton
Barrett, Lorraine
Black, Peter
Burnham, Eleanor
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davidson, Jane
Davies, Alun
Davies, Andrew
Davies, Jocelyn
Evans, Nerys
Franks, Chris
German, Michael
Gibbons, Brian
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Hart, Edwina
Hutt, Jane
Jenkins, Bethan
Jones, Alun Ffred
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Elin
Jones, Gareth
Jones, Helen Mary
Jones, Ieuan Wyn
Law, Trish
Lewis, Huw
Lloyd, David
Lloyd, Val
Mewies, Sandy
Morgan, Rhodri
Randerson, Jenny
Sargeant, Carl
Thomas, Gwenda
Thomas, Rhodri Glyn
Watson, Joyce
Williams, Kirsty
Wood, Leanne



Asghar, Mohammad
Davies, Andrew R.T.
Davies, Paul
Graham, William
Isherwood, Mark
Melding, David
Millar, Darren
Morgan, Jonathan
Williams, Brynle



Derbyniwyd y cynnig.
Motion agreed.






Dadl Fer
Short Debate

Atebolrwydd ac Anifeiliaid: Ysgwyddo Baich Erlyniadau Lles Anifeiliaid
Duty and the Beast: Bearing the Burden of Animal Welfare Prosecutions



Brynle Williams: Britain is a country that prides itself on the way that it treats its animals, whether as family pets or for sport or agriculture. Quite rightly, as a society, we have little tolerance for those who neglect animals or treat them with cruelty. On enforcing these high standards, Wales has the powers, through the Animal Welfare Act 2006, to prosecute those who commit an offence. It is also fair to say that there is an expectation among members of the public that these powers are used when it is necessary. However, in practice, this has not always been the case because enforcement, regrettably, comes at a price.


Brynle Williams: Mae Prydain yn wlad sy’n ymfalchïo yn y modd y mae’n trin ei hanifeiliaid, boed yn anifeiliaid anwes i’r teulu neu’n anifeiliaid ar gyfer chwaraeon neu amaethyddiaeth. Fel cymdeithas, nid ydym yn oddefgar iawn o’r rheini sy’n esgeuluso anifeiliaid neu sy’n greulon wrthynt, ac mae hynny’n gwbl iawn. O ran gorfodi’r safonau uchel hyn, mae gan Gymru y pwerau, trwy Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, i erlyn y rheini sy’n troseddu. Teg dweud hefyd bod y cyhoedd yn disgwyl i’r pwerau hynny gael eu defnyddio lle bo angen. Fodd bynnag, yn ymarferol, nid felly y bu bob amser oherwydd, yn anffodus, mae camau gorfodi’n costio arian.


In the last two years, there have been two high-profile prosecutions involving equines by Denbighshire and Wrexham councils. While they may have been successful in gaining convictions for appalling instances of neglect, those cases were won at considerable cost. The bill for both of these prosecutions was well in excess of £150,000 apiece. There are provisions to recover costs, but given that these large cases of neglect often arise because the owner has simply run out of money to feed and house the animals, there have obviously been constraints on how successful this approach has been.


Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, cafwyd dau erlyniad amlwg iawn yn ymwneud â cheffylau gan gynghorau Sir Ddinbych a Wrecsam. Er iddynt lwyddo i gael euogfarnau ar gyfer enghreifftiau ofnadwy o esgeulustod, yr oedd cost sylweddol ynghlwm wrth ennill yr achosion hynny. Yr oedd y bil am y ddau erlyniad ymhell dros £150,000 yr un. Mae yna ddarpariaethau ar gyfer adennill costau, ond o gofio bod yr achosion mawr hyn o esgeulustod yn aml yn codi am nad oes gan y perchennog, yn syml iawn, ragor o arian i roi bwyd a chysgod i’r anifeiliaid, mae’n amlwg mai cyfyngedig fu llwyddiant y dull gweithredu hwn.


However, the most worrying legacy of these high profile cases has been the example that they have set to other authorities. I know that in north Wales alone, from speaking with council employees and trading standards officials, that having looked at the costs involved, other local authorities have decided not to take on these cases. Under the current arrangements, they have no obligation to do so. There is no duty to enforce the Animal Welfare Act—it is optional. I appreciate most certainly that it is not fair to burden taxpayers with the bill for these prosecutions. I believe that if anyone should foot the bill for cases like these, it should be the offender. However, I am deeply worried that the precedent set by these high-profile cases, and councils’ great reluctance to deal with new ones, will mean that more large-scale welfare cases will be ignored until it is too late for the animals involved.


Fodd bynnag, yr hyn sydd wedi peri’r gofid mwyaf yn dilyn yr achosion amlwg dan sylw yw’r esiampl y maent wedi’i gosod i awdurdodau eraill. Gwn yn y gogledd yn unig, o siarad â staff cynghorau a swyddogion safonau masnach, fod awdurdodau lleol eraill wedi penderfynu peidio â dwyn achosion tebyg, ar ôl edrych ar y costau sydd ynghlwm wrthynt. Dan y trefniadau presennol, nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Nid oes dyletswydd i orfodi’r Ddeddf Lles Anifeiliaid—rhywbeth dewisol ydyw. Wrth gwrs, yr wyf yn sylweddoli nad yw’n deg rhoi’r baich i dalu am yr erlyniadau hyn ar drethdalwyr. Credaf mai’r troseddwr ddylai dalu’r bil am achosion tebyg i’r rhain, os oes yn rhaid i rywun dalu. Fodd bynnag, yr wyf yn pryderu’n fawr y bydd y cynsail y mae’r achosion amlwg hyn wedi’i osod, ac amharodrwydd mawr cynghorau i ymdrin ag achosion newydd, yn golygu y caiff mwy o achosion lles ar raddfa fawr eu hanwybyddu, ac y bydd wedyn yn rhy hwyr i’r anifeiliaid dan sylw.


Unfortunately, these cases have tended to follow an all-too-familiar pattern where the owner runs out of money and cannot pay for feed or vets’ bills, and their animals begin to deteriorate. I do not know why, but for some obscure reason, people are reluctant to sell animals when they see themselves getting into a difficult financial position or a position in which they cannot care for their animals. The next thing to happen is that concerns are raised with the authorities, and despite knowing full well that the owner has no hope of paying their bills, they are given time to turn the situation around. However, the owner still has no money to look after the animals and the authorities desperately want to avoid the cost of going to court. So, while both sides are hoping that the problem will simply resolve itself, weeks pass and the animals are left to decline even further. Both parties end up being more concerned with money than with the welfare of the animals.


Yn anffodus, mae’r achosion hyn wedi tueddu i ddilyn patrwm rhy gyfarwydd o lawer, lle bydd arian y perchennog yn dod i ben, ac yntau’n methu â thalu am fwyd i’w anifeiliaid neu dalu biliau’r milfeddyg, a lle bydd cyflwr ei anifeiliaid yn dechrau dirywio. Wn i ddim pam, ond am ryw reswm dyrys mae pobl yn gyndyn o werthu eu hanifeiliaid pan welant eu bod yn mynd i sefyllfa ariannol anodd neu sefyllfa lle na allant ofalu amdanynt. Mynegir pryderon wrth yr awdurdodau wedyn, ac er eu bod yn gwybod yn iawn nad oes gan y perchennog obaith o dalu ei filiau, rhoddir amser iddo wella’r sefyllfa. Fodd bynnag, ni fydd gan y perchennog ddim arian o hyd i ofalu am yr anifeiliaid, a bydd yr awdurdodau’n awyddus iawn i osgoi’r gost o fynd i’r llys. Felly, gyda’r ddwy ochr yn gobeithio y bydd y broblem yn ei datrys ei hun, bydd wythnosau’n mynd heibio a chyflwr yr anifeiliaid yn dirywio ymhellach fyth. Yn y diwedd, bydd arian yn dod yn bwysicach i’r ddwy ochr na lles yr anifeiliaid.


I am not blaming individual officers, but the current arrangements seem to encourage bodies to pass the buck in the hope that someone else will take responsibility. I have pursued one of these cases for 12 months to get a conclusion. The Minister will be aware of a current case where animals are being left in a dreadful state, when it was obvious eight weeks ago what would happen, and yet officials are left arguing over who should take responsibility for going to court for a seizure order. This is not how it should be in a nation that prides itself on the way that it treats animals. There is an urgent need for a better mechanism for dealing with these cases, which, I am sad to say, are becoming all too frequent.


Nid wyf yn gweld bai ar swyddogion unigol, ond ymddengys fod y trefniadau presennol yn annog cyrff i osgoi ysgwyddo’r baich, yn y gobaith y bydd rhywun arall yn cymryd cyfrifoldeb. Yr wyf wedi dilyn un o’r achosion hyn am 12 mis i gael gweld beth fydd ei ben draw. Bydd y Gweinidog yn gwybod am achos cyfredol lle caiff anifeiliaid eu gadael mewn cyflwr ofnadwy, pan oedd yn amlwg beth fyddai’n digwydd wyth wythnos yn ôl, ac eto mae swyddogion mewn sefyllfa lle maent yn dadlau ynghylch pwy ddylai gymryd cyfrifoldeb am fynd i’r llys i gael gorchymyn atafael. Nid felly y dylai fod mewn gwlad sy’n ymfalchïo yn y modd y mae’n trin anifeiliaid. Mae taer angen am ddull gwell o ymdrin â’r achosion hyn sydd, mae’n chwith gennyf ddweud, yn dod yn rhy gyffredin o lawer.


Local authorities have not been given any resources to fund prosecutions and the trading standards officials with whom I have spoken tell me that they cannot afford to take them on either. I believe that one way the public interest could be better served would be through a commonsense approach, where action is taken early, and officers are supported in doing so. Once it has been established beyond doubt that an owner has no practical means of improving the animals’ welfare, officials should seize the animals when they are still in a saleable condition or a reasonably healthy condition. I emphasise again here that I am speaking of cases involving many large animals. This way, the animals are saved from further inevitable cruelty, and the taxpayer is not left footing the bill for the animals’ upkeep or paying for them to be fed and housed for weeks on end, when they may end up being regrettably returned to their abuser, only to be neglected again, possibly the following winter.


Nid yw awdurdodau lleol wedi cael dim adnoddau i dalu am erlyniadau, ac mae’r swyddogion safonau masnach yr wyf wedi siarad â hwy yn dweud wrthyf na allant hwythau fforddio erlyn y bobl hyn chwaith. Credaf mai un ffordd o wasanaethu budd y cyhoedd yn well fyddai gweithredu ar sail synnwyr cyffredin, lle caiff camau eu cymryd yn gynnar, a lle caiff swyddogion gefnogaeth i wneud hynny. Ar ôl cadarnhau y tu hwnt i bob amheuaeth nad oes gan berchennog fodd ymarferol i wella lles yr anifeiliaid, dylai swyddogion gymryd yr anifeiliaid tra byddant mewn cyflwr digon da i’w gwerthu, neu gyflwr cymharol iach. Pwysleisiaf yma eto mai sôn yr wyf am achosion sy’n ymwneud â llawer o anifeiliaid mawr. O wneud hynny, byddai modd arbed yr anifeiliaid rhag mwy o greulondeb anochel, ac ni fyddai’n rhaid i’r trethdalwr dalu’r bil am gadw’r anifeiliaid neu dalu am ddarparu bwyd a chysgod iddynt am wythnosau bwygilydd, pan allent, yn anffodus, gael eu rhoi’n ôl yn y pen draw i’r un a fu’n eu cam-drin, ac wynebu cael eu hesgeuluso eto y gaeaf wedyn efallai.


I hope that the Minister will give this issue careful consideration; in fact, I believe that the Minister will give this careful consideration because the current system is not working. If there is to be no duty for enforcement on the part of local authorities, there must be practical arrangements in place to protect the animals. As things are, I am deeply concerned that the importance of the health and welfare of animals is being lost in the arguments over the cost and responsibilities for prosecuting offenders.


Gobeithio y bydd y Gweinidog yn ystyried y mater hwn yn ofalus; a dweud y gwir, credaf y bydd y Gweinidog yn ystyried y mater hwn yn ofalus, oherwydd nid yw’r system bresennol yn gweithio. Os nad yw’n fwriad gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gymryd camau gorfodi, rhaid cael trefniadau ymarferol i amddiffyn yr anifeiliaid. Gyda phethau fel y maent, yr wyf yn pryderu’n fawr fod pwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid yn mynd ar goll yn y dadleuon am faint mae erlyn troseddwyr yn ei gostio, a phwy sy’n gyfrifol am wneud hynny.


Y Gweinidog dros Faterion Gwledig (Elin Jones): Diolch, Brynle, am alw’r ddadl hon ar les anifeiliaid y prynhawn yma. Yr wyf yn siŵr bod Brynle yn deall nad yw’n bosibl i mi drafod achosion yr ymchwilir iddynt ar hyn o bryd.


The Minister for Rural Affairs (Elin Jones): Thank you, Brynle, for calling this debate on animal welfare this afternoon. I am sure that Brynle understands that I cannot comment on cases that are currently under investigation.

6.10 p.m.





Fodd bynnag, mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i sicrhau bod safonau lles sylfaenol anifeiliaid yn cael eu cynnal, ac yr wyf yn falch fy mod i, fel y Gweinidog dros Faterion Gwledig, wedi gallu cyflwyno nifer o fesurau ymarferol i wella lles anifeiliaid. Wrth gwrs, rhaid i’r mesurau hyn, gan gynnwys unrhyw ddeddfwriaeth, fod yn addas ac yn gymesur.


However, every one of us has a responsibility to ensure that basic animal welfare standards are maintained, and I am pleased that I, as Minister for Rural Affairs, have been able to introduce a number of practical measures to improve animal welfare. Of course, these measures, together with any legislation, must be appropriate and proportionate.

Daeth Deddf Lles Anifeiliaid 2006 i rym ar 27 Mawrth 2007. Ymhlith pethau eraill, rhoddodd ddyletswydd ar berchnogion anifeiliaid i ofalu am eu hanifeiliaid a rhoddodd yr hawl i awdurdodau lleol gyflwyno rhybuddion gwella i bobl sy’n torri safonau lles anifeiliaid. Yn ogystal, rhoddodd yr hawl i awdurdodau symud anifeiliaid pe byddent yn dioddef o aros lle y maent.


The Animal Welfare Act 2006 came into force on 27 March 2007. Among other things, it placed a duty on animal owners to care for their animals and gave local authorities the right to serve improvement notices on those who breach animal welfare standards. It also gave the right for authorities to remove animals if they would suffer should they remain where they were.

Rhoddodd y Ddeddf bwerau newydd i Lywodraeth y Cynulliad i hyrwyddo lles anifeiliaid drwy greu a diwygio systemau trwyddedu a thrwy lunio codau ymarfer. Er hyn oll, fel y dywedodd Brynle, nid oes gorfodaeth ar awdurdodau lleol i orfodi amodau’r Ddeddf. Mae rhai yn ystyried hynny’n ddiffyg.


The Act gave the Assembly Government new powers to promote animal welfare by putting in place and amending licensing systems and introducing codes of practice. Despite that, as Brynle said, the Act did not require local authorities to compulsorily enforce its provisions and some consider this to be a failing.


Mae Adran 30 y Ddeddf yn dweud yn glir, o’i chyfieithu, y caiff awdurdod lleol yng Nghymru neu Loegr ddwyn achos cyfreithiol yn erbyn rhywun sydd wedi troseddu o dan y Ddeddf hon. Mae’r gair ‘caiff’ yn bwysig iawn gan ei fod yn rhoi peth disgresiwn i’r awdurdod lleol o ran erlyn neu beidio ag erlyn. Er enghraifft, yn lle erlyn, gallai rhybudd gwella o dan adran 10 y Ddeddf fod yn syniad gwell mewn ambell sefyllfa.


Section 30 of the Act is clear that a local authority in England or Wales may bring forward a prosecution for any offence under this Act. The word ‘may’ is important because it gives the local authority some discretion on whether to prosecute. For example, instead of proceeding with a prosecution, the use of an improvement notice under section 10 of the Act could be more effective in some circumstances.


Daeth y Ddeddf i rym ar y ddealltwriaeth na fyddai cost iddi. Mae awdurdodau lleol wastad wedi dwyn achosion ynghylch lles anifeiliaid anwes, ac yn wir lles anifeiliaid fferm, drwy Ddeddf Diogelu Anifeiliaid 1911. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol hefyd am sicrhau bod y camau priodol yn cael eu cymryd er mwyn iddynt allu erlyn o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.


The Act was enforced on the basis that it would not incur costs. Local authorities have always taken forward prosecutions on pet animal welfare and, indeed, on the welfare of farm animals through the Protection of Animals Act 1911. Local authorities are also responsible for ensuring that appropriate provision is made to take forward any prosecutions under the Animal Welfare Act 2006.


Yr wyf wedi ceisio defnyddio’r pwerau newydd o dan y Ddeddf i wella lles pob anifail yng Nghymru. Yr wyf wedi canolbwyntio ar atal yn hytrach nag erlyn, a hynny drwy hyrwyddo arfer da.


I have sought to use the new powers under the Act to improve the welfare of all animals in Wales. My focus has been on prevention rather than prosecution, through promoting good practice.

O safbwynt y sector anifeiliaid fferm, mae deddfwriaeth Ewropeaidd wedi bodoli ers blynyddoedd sy’n gorfodi awdurdodau lleol i weithredu os oes problem yn dod i’w sylw. Yng Nghymru, mae ffermwyr yn sylweddoli bod cynnal safonau da o ran iechyd a lles eu hanifeiliaid yn dda i fusnes. Dyna pam mae nifer o ffermwyr wedi ymuno’n wirfoddol â chynllun Freedom Food y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid, er enghraifft.


On the farm animal sector, European legislation has been in place for many years that compels local authorities to act if issues are brought to their attention. In Wales, farmers recognise that good animal health and welfare standards are good for business. That is why many farmers have voluntarily joined the Freedom Food scheme of the Royal Society of the Prevention of Cruelty to Animals.

Mae’r sefyllfa o ran anifeiliaid anwes, ar y llaw arall, yn wahanol. Yn sgîl cyflwyno’r Ddeddf Lles Anifeiliaid, mae fy swyddogion, wrth drafod â swyddogion awdurdodau lleol a mudiadau lles, wedi dod ar draws nifer o feysydd sy’n peri gofid. Yn eu plith yr oedd diffyg gwybodaeth am fusnesau sy’n delio ag anifeiliaid anwes, yr angen i wella’r berthynas â’r trydydd sector a hyfforddi staff awdurdodau lleol mewn maes arbenigol.


The situation with pet animals, on the other hand, is different. Following the introduction of the Animal Welfare Act, my officials, in discussions with their counterparts in local authorities and welfare organisations, identified a number of matters of concern. These included lack of information on businesses dealing with pet animals, the need to improve the working relationship with the third sector, and the training of local authority staff in specialised areas.


Yn arbennig, gwelwyd bod diffyg gwybodaeth dda i addysgu’r cyhoedd am les anifeiliaid, a phenderfynwyd y dylai llunio codau ymarfer effeithiol fod yn elfen allweddol i wella’u dealltwriaeth o les anifeiliaid anwes. Y gobaith oedd y byddai hynny, ymhen amser, yn arwain at lai o waith gorfodi ac erlyn.


In particular, we identified a lack of good information for educating the public on the welfare of animals, and we decided that introducing effective codes of practice should be a key element in promoting better understanding of pet animal welfare. It is hoped that this will lead to less enforcement and prosecution in due course.

Lansiais y cynllun gwella lles anifeiliaid anwes, a elwir yn CAWES, yn 2008 yn unswydd i fynd i’r afael â’r pryderon hyn. Y nod yn y tymor hir yw cael mwy o bobl i ddeall beth yw lles anifeiliaid, fel bod llai o erlyniadau, thrwy hynny, bod y baich y maent yn ei roi ar bawb yn lleihau.


I launched the companion animal welfare enhancement scheme, or CAWES as it is known, in 2008 with the specific aim of addressing these issues. The long-term aim is to ensure that more people understand animal welfare, which would lead to fewer prosecutions and reduce the burden which they place on all concerned.



Yn 2008-09 a 2009-10, neilltuais tua £700,000 i awdurdodau lleol yng Nghymru er mwyn sefydlu fforymau i ymchwilio i faint o fusnesau anifeiliaid anwes sydd ym mhob awdurdod, ac er mwyn iddynt gydweithio i hyrwyddo addysg am les anifeiliaid. Mae’n dda gennyf ddweud bod 21 o’r 22 awdurdod wedi cytuno i gymryd rhan. Neilltuais hefyd £200,000 y byddai awdurdodau lleol yn gallu gwneud cais amdano i gynnal prosiectau arbennig. Gwelsom ganlyniadau’r rhaglen gyntaf honno mewn cynhadledd ar les anifeiliaid ym mis Tachwedd 2009. Yn ogystal â gwaith y fforymau, mae deunydd addysgol a chyhoeddusrwydd hefyd wedi’u cynhyrchu. Bydd cynllun tebyg yn cael ei gynnal yn 2010-11.


In both 2008-09 and 2009-10 I allocated approximately £700,000 to local authorities in Wales to establish fora to investigate how many pet animal businesses exist in each authority, and to collaborate to promote animal welfare education. I am pleased that 21 of the 22 authorities have agreed to participate I also allocated £200,000 that local authorities would be able to bid for to undertake specific projects. We saw the results of that initial programme at an animal welfare conference in November 2009. In addition to the work of the forums, educational and publicity materials have also been produced. A similar scheme will be run in 2010-11.


Cyhoeddais hefyd gyfres o godau ymarfer da am gŵn, cathod, ceffylau a chwningod. O gofio bod yr economi geffylau yn werth tua £300 miliwn yng Nghymru, bod dros hanner miliwn o gŵn a chathod yma, a bod cwningod, yn ôl milfeddygon, yn dioddef yn fawr oherwydd problemau lles, mae’r codau hyn yn ffordd gost-effeithiol o hyrwyddo lles anifeiliaid. Maent wedi cael croeso mawr ledled Cymru ac maent wedi helpu pobl i ddeall yn well sut i ofalu am anifeiliaid. Mae’n bleser cael dweud y cafodd y codau hyn eu cyflwyno yng Nghymru ymhell cyn eu cyflwyno yn Lloegr a’r Alban. Yr wyf wedi synhwyro rhywfaint o sinigiaeth ynghylch y cod ymarfer da ar gyfer lles y gwningen, ond, yn ddiweddar, defnyddiwyd y cod ymarfer hwn gan yr RSPCA mewn erlyniad llwyddiannus yn ymwneud â lles cwningen.


I have also produced codes of practice on dogs, cats, equines and rabbits. Bearing in mind that the equine economy is worth over £300 million, that there are over half a million cats and dogs in Wales, and that rabbits, according to vets, suffer the most welfare problems, these codes are a cost effective way of promoting animal welfare. These codes have been well received across Wales and have helped to raise understanding around keeping these animals. I am pleased that all these codes were introduced long before codes of practice were introduced in England and Scotland. I have sensed an element o cynicism regarding the code of practice on the welfare of rabbits, but, recently, this code was used by the RSPCA in a successful prosecution relating to the welfare of a rabbit.


Yn y sector ffermio, byddwn yn cyhoeddi fersiynau newydd o’r codau ymarfer ar gyfer defaid a gwartheg, ac yr ydym wrthi’n ymgynghori ar god lles ar gyfer adar hela. Mae llawer o fudiadau wedi canmol Cymru am lansio rhaglen CAWES gan ei bod yn cael effaith go iawn ar agweddau pobl tuag at les anifeiliaid ac am fod cydweithio’n rhan ganolog o’r broses.


In the farm sector, we will shortly be producing revised codes of practice for sheep and cattle, and we currently have a consultation on game bird welfare. Wales has been commended by many organisations for launching the CAWES programme in that it is having a real impact in the way that animal welfare is being considered, and because collaborative working is at the heart of this process.


Yn y gynhadledd y cyfeiriais ato’n gynharach ar les anifeiliaid fis Tachwedd diwethaf gyda’r trydydd sector ac awdurdodau lleol, cyhoeddais y byddai grŵp gorchwyl a gorffen ar fagu cŵn i wneud argymhellion yn y maes yn cael ei sefydlu. Y rheswm pennaf dros ei sefydlu oedd bod yr arian a roddwyd i awdurdodau lleol yn y gorllewin drwy CAWES wedi esgor ar dystiolaeth bod angen newid pethau. Bydd y grŵp yn cyhoeddi’i argymhellion i mi ym mis Mehefin. Ymhlith pethau eraill, bydd yn argymell rhoi microsglodion fel rhan o newidiadau posibl i’r Ddeddf magu cŵn. Fel rhan o’r strategaeth i wella lles anifeiliaid, cyflwynais ddeddfwriaeth i wahardd coleri sy’n rhoi sioc drydanol i gŵn a chathod. Caiff y Cynulliad gyfle i drafod a phleidleisio ar hyn ddydd Mawrth nesaf.


At the animal welfare conference last November with the third sector and local authorities, to which I referred earlier, I announced a task and finish dog breeding group to make recommendations in this field. This was primarily because funding given to local authorities in west Wales through CAWES helped to provide the appropriate evidence that changes were needed. The group is on course to provide me with recommendations in June. With it will come recommendations on microchipping as part of possible changes to the breeding of dogs Act. As part of the strategy to improve animal welfare, I have laid legislation on putting a ban in place on the use of electronic collars for cats and dogs. The Assembly will have an opportunity to discuss and vote on this next Tuesday.


O dan brosiectau arbennig CAWES, mae’r prosiect ceffylau yng ngogledd Cymru wedi datblygu protocol i ddelio â cheffylau, gyda mudiadau fel Redwings a’r RSPCA yn cyfrannu ato. Yr wyf yn rhagweld y bydd y protocol hwn o help mawr i awdurdodau lleol pan fyddant yn ymchwilio i gwynion ynghylch lles ceffylau. Mae prosiect Mustang yn ne Cymru, ar y cyd â’r holl awdurdodau lleol ar hyd coridor yr M4 ac Ysgol Filfeddygol Bryste, yn ymchwilio i batrymau cadw ceffylau ac yn paratoi adroddiad ar arferion gorau. Mae awdurdod lleol Caerdydd wedi cyflogi warden ceffylau, diolch i arian gan CAWES, i roi cyngor ac i helpu i osgoi erlyniadau.


Under the CAWES special projects, the equine project in north Wales has developed a protocol for dealing with equines, involving organisations such as Redwings and the RSPCA. I anticipate that this protocol will be of significant benefit to local authorities when investigating welfare complaints in the equine sector. The south Wales Mustang project, in conjunction with all the local authorities along the M4 corridor and the Bristol Veterinary School, is examining patterns related to the keeping of equines, and is putting together a report on best practice. Cardiff local authority also employs a horse warden, courtesy of the CAWES funding, to provide advice and to help prevent prosecutions.


Wrth gwrs, os nad yw hyrwyddo’n gweithio a lle bo anifeiliaid yn cael cam, yna mae angen erlyn. Yn 2008, cafodd memorandwm cyd-ddealltwriaeth ei lunio rhwng awdurdodau lleol Cymru a Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru—y corff sy’n trefnu mudiadau’r trydydd sector sy’n delio â lles anifeiliaid. Yr oedd y memorandwm yn ymdrin â chytundebau mewn nifer o feysydd gan gynnwys rhannu gwybodaeth, cydweithio, sioeau, crynhoi a chludo anifeiliaid, a hyfforddiant. Rhan o hyn oedd cytundeb mai awdurdodau lleol ddylai fod yn gyfrifol am orfodi mesurau lles anifeiliaid fferm, a taw’r RSPCA fyddai’n delio ag anifeiliaid anwes oni bai bod materion sensitif yn codi neu bod cysylltiad â’r sector ffermio yn rhan o’r achos.


Of course, where promotion fails and there are cases of poor animal welfare, prosecution will be necessary. In 2008, a memorandum of understanding was drawn up between local authorities in Wales and the Animal Welfare Network for Wales—the body responsible for

organising third sector organisations that deal with animal welfare. The memorandum dealt with agreements in a number of areas, including the sharing of information, collaboration, shows, the gathering and transportation of animals, and training. As part of this, there was an agreement that local authorities should be responsible for enforcing animal welfare standards on farms, and that the RSPCA would deal with pet animals, unless sensitive issues should arise in this context or that a link with the farming sector formed part of the case.




Yr wyf yn sylweddoli bod erlyniadau ynghylch ceffylau yn gallu bod yn gostus, fel y dywedodd Brynle, yn enwedig os oes llawer o anifeiliaid o dan sylw a bod angen sylw arbenigol arnynt. Yng Nghymru, gan y byddai erlyniad yn cael ei ddwyn ar y cyd, ni fyddai’r gost mor fawr. Mae awdurdodau lleol wastad wedi bod yn rhydd i adfer eu costau drwy’r llysoedd, ond mae’r llysoedd yn ystyried yr amgylchiadau yn eu cyfanrwydd ym mhob achos unigol, a deallaf fod rhesymau da weithiau pam nad yw hi’n bosibl adfer yr holl gostau bob tro.


I recognise that cases involving equines can be very expensive, as Brynle mentioned, especially where a large number of animals is involved and need specialist attention. For Wales, because of the greater collaborative effort in bringing a prosecution, the cost of taking forward these cases are not likely to be as great. It is of course always open to local authorities to seek their costs through the courts, but the courts take all the circumstances into account when considering each case, and I recognise that for good reasons these costs are not always fully recoverable.


Yn olaf, hoffwn ychwanegu nad yw erlyniad o reidrwydd yn fater drud; mae’n gallu bod, ond mae’n dibynnu ar ddifrifoldeb yr achos. Mater i benderfynwyr lleol yw penderfynu beth maent am ei gyflawni. Ein nod ni yw annog codi safonau lles gyda golwg ar ostwng nifer yr erlyniadau yn y dyfodol. Felly, ers cyflwyno Deddf Lles Anifeiliaid 2007, yr ydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn y gweithgareddau ac yn y ddeddfwriaeth yng Nghymru i hyrwyddo lles anifeiliaid—rhywbeth yr wyf yn sicr sy’n bwysig i bawb yn y Cynulliad ar draws y sbectrwm gwleidyddol.

Finally, I would add that prosecution does not have to be an expensive process; it can be, but that depends on the severity of the case. It will be a matter for local decision makers to decide on what they wish to achieve. Our aim is to encourage raised standards of welfare with a view to reducing the numbers of prosecutions in the future. Therefore, since the introduction of the Animal Welfare Act in 2007, we have seen a significant increase in activities and legislation to promote animal welfare, which I am sure is important to everyone in the Assembly across the political spectrum.


The Deputy Presiding Officer: That brings today’s business to a close. Thank you.

Y Dirprwy Lywydd: Dyna ddiwedd ein trafodion am heddiw. Diolch.


Daeth y cyfarfod i ben am 6.19 p.m.
The meeting ended at 6.19 p.m.

Aelodau a’u Pleidiau
Members and their Parties

Andrews, Leighton (Llafur – Labour)
Asghar, Mohammad (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Barrett, Lorraine (Llafur – Labour)
Bates, Mick (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Black, Peter (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Bourne, Nick (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Burnham, Eleanor (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Burns, Angela (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Butler, Rosemary (Llafur – Labour)
Cairns, Alun (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Chapman, Christine (Llafur – Labour)
Cuthbert, Jeff (Llafur – Labour)
Davidson, Jane (Llafur – Labour)
Davies, Alun (Llafur – Labour)
Davies, Andrew (Llafur – Labour)
Davies, Andrew R.T. (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Davies, Jocelyn (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Davies, Paul (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Elis-Thomas, Dafydd (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Evans, Nerys (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Franks, Chris (Plaid Cymru – The Party of Wales)
German, Michael (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Graham, William (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Gregory, Janice (Llafur – Labour)
Griffiths, John (Llafur – Labour)
Griffiths, Lesley (Llafur – Labour)
Gibbons, Brian (Llafur – Labour)
Hart, Edwina (Llafur – Labour)
Hutt, Jane (Llafur – Labour)
Isherwood, Mark (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
James, Irene (Llafur – Labour)
Jenkins, Bethan (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Jones, Alun Ffred (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Jones, Ann (Llafur – Labour)
Jones, Carwyn (Llafur – Labour)
Jones, Elin (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Jones, Gareth (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Jones, Helen Mary (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Jones, Ieuan Wyn (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Law, Trish (Annibynnol – Independent)
Lewis, Huw (Llafur – Labour)
Lloyd, David (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Lloyd, Val (Llafur – Labour)
Melding, David (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Mewies, Sandy (Llafur – Labour)
Millar, Darren (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Morgan, Jonathan (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Morgan, Rhodri (Llafur – Labour)
Neagle, Lynne (Llafur – Labour)
Ramsay, Nick (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Randerson, Jenny (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Ryder, Janet (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Sargeant, Carl (Llafur – Labour)
Sinclair, Karen (Llafur – Labour)
Thomas, Gwenda (Llafur – Labour)
Thomas, Rhodri Glyn (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Watson, Joyce (Llafur – Labour)
Williams, Brynle (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Williams, Kirsty (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Wood, Leanne (Plaid Cymru – The Party of Wales)


Yüklə 0,72 Mb.

Dostları ilə paylaş:
1   ...   14   15   16   17   18   19   20   21   22




Verilənlər bazası müəlliflik hüququ ilə müdafiə olunur ©muhaz.org 2024
rəhbərliyinə müraciət

gir | qeydiyyatdan keç
    Ana səhifə


yükləyin