The Record (Word doc, 27MB)



Yüklə 0,72 Mb.
səhifə7/22
tarix24.12.2017
ölçüsü0,72 Mb.
#35878
1   2   3   4   5   6   7   8   9   10   ...   22

Jocelyn Davies: You will be pleased to hear that we are carrying out a number of reviews based on the work that has been done by the Essex work streams. We are reviewing the grant that we give to social housing providers, so that we ensure that we get the right sorts of property in the right places. We are also holding an independent review of rents, because our rents policy must allow properties to remain affordable but also maintainable, to repay any borrowing that was undertaken to build it.


Jocelyn Davies: Byddwch yn falch clywed ein bod yn cynnal nifer o adolygiadau’n seiliedig ar y gwaith sydd wedi’i wneud gan ffrydiau gwaith Essex. Yr ydym yn adolygu’r grant yr ydym yn ei roi i ddarparwyr tai cymdeithasol, fel y gallwn sicrhau ein bod yn cael y mathau iawn o eiddo yn y lleoedd iawn. Yr ydym hefyd yn cynnal adolygiad annibynnol o renti, oherwydd rhaid i’n polisi rhent ganiatáu i eiddo barhau’n fforddiadwy ond yn gynaliadwy hefyd, er mwyn ad dalu unrhyw fenthyciadau a gafwyd i’w adeiladu.

Preserving the Natural Environment


Gwarchod yr Amgylchedd Naturiol

Q9 Andrew R.T. Davies: What discussions has the Minister had with her ministerial colleagues about preserving the Welsh natural environment? OAQ(3)1222(ESH)


C9 Andrew R.T. Davies: Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi eu cael gyda chyd-Weinidogion ynghylch gwarchod amgylchedd naturiol Cymru? OAQ(3)1222(ESH)


Jane Davidson: I discuss this issue regularly with my ministerial colleagues, both in Cabinet and on a one-to-one basis. These discussions cover our work on climate change, planning, agri-environment programmes and other relevant issues. Sustainable development is our guiding theme here and includes preserving and enhancing, wherever possible, Wales’s natural environment.


Jane Davidson: Byddaf yn trafod y mater hwn yn rheolaidd gyda’m cyd-Weinidogion, yn y Cabinet ac yn unigol. Mae’r trafodaethau hyn yn cwmpasu ein gwaith ar y newid yn yr hinsawdd, cynllunio, rhaglenni amaeth amgylcheddol a materion perthnasol eraill. Datblygu cynaliadwy yw ein thema arweiniol yn y cyswllt hwn, ac mae’n cynnwys diogelu a gwella amgylchedd naturiol Cymru, lle bynnag y mae hynny’n bosibl.


Andrew R.T. Davies: Thank you for that answer, Minister. Over the next decade, a key tension will develop between the demand for food production and the need to sustain the natural environment. Two departments work on this: yours and Elin Jones’s. What discussions do you both have to try to mitigate these compounding pressures? With population growth and food scarcity on the agenda, and increasingly so, it is important that the right balance be struck so that farmers make informed choices about agri-environment schemes and can run their businesses effectively. How do you foresee managing those tensions successfully over the next decade, so that we can develop a coherent strategy?


Andrew R.T. Davies: Diolch am eich ateb, Weinidog. Dros y degawd nesaf, bydd tensiwn allweddol yn datblygu rhwng y galw am gynhyrchu bwyd a’r angen i gynnal yr amgylchedd naturiol. Mae dwy adran yn gweithio ar hyn: eich adran chi ac adran Elin Jones. Pa drafodaethau yr ydych chi eich dwy yn eu cael i geisio lliniaru’r pwysau hyn sy’n dwysáu? Gyda thwf y boblogaeth a phrinder bwyd ar yr agenda, a hynny’n gynyddol, mae’n bwysig sicrhau’r cydbwysedd iawn fel y gall ffermwyr wneud dewisiadau deallus am gynlluniau amaeth amgylcheddol a rhedeg eu busnesau’n effeithiol. Sut yr ydych yn rhagweld y byddwch yn rheoli’r tensiynau hynny’n llwyddiannus dros y degawd nesaf, er mwyn inni allu datblygu strategaeth gydlynol?


Jane Davidson: As you know from Elin’s statement yesterday, Glastir, the new agri-environment scheme, will contribute to biodiversity via its emphasis on ecosystem services, particularly carbon and water cycles. We have regular discussions about the interface between our portfolios, and we are due to have one later this afternoon on issues relating to land use in the context of climate change and the new report.


Jane Davidson: Fel y gwyddoch o ddatganiad Elin ddoe, bydd Glastir, y cynllun amaeth-amgylcheddol newydd, yn cyfrannu at fioamrywiaeth drwy ei bwyslais ar wasanaethau ecosystemau, yn enwedig cylchredau carbon a dŵr. Yr ydym yn cael trafodaethau rheolaidd am y rhyngwyneb rhwng ein portffolios, a byddwn yn cael trafodaeth yn ddiweddarach y prynhawn yma ar faterion yn ymwneud â defnyddio tir yng nghyd-destun y newid yn yr hinsawdd a’r adroddiad newydd.


Chris Franks: We should all celebrate the achievement of significant growth in the red kite population and the fact that there have even been sightings of black kites in the skies of Wales. That shows that matters can be improved in the natural environment. What discussions have you had with the Minister for Rural Affairs on the Glastir scheme? Do you agree that it is essential that the scheme be up and running by the start date of 2012, and that it must include measures to support the conservation and recovery of biodiversity priorities, such as the curlew and lapwing? That is an important target given the failure to meet the 2010 biodiversity targets.


Chris Franks: Dylem bob un ddathlu’r twf sylweddol ym mhoblogaeth y barcud a’r ffaith bod y barcut du hyd yn oed wedi ei weld yn yr awyr yng Nghymru. Dengys hynny fod modd gwella pethau yn yr amgylchedd naturiol. Pa drafodaethau yr ydych wedi eu cael gyda’r Gweinidog dros Faterion Gwledig am gynllun Glastir? A ydych yn cytuno ei bod yn hanfodol i’r cynllun fod yn barod ac ar waith erbyn y dyddiad cychwyn, sef 2012, a’i bod yn rhaid iddo gynnwys mesurau i gefnogi’r gwaith o warchod ac adfer rhywogaeth sy’n cael blaenoriaeth o safbwynt bioamrywiaeth, megis y gylfinir a’r gornchwiglen? Mae hwnnw’n darged pwysig o gofio’r methiant i gyrraedd targedau bioamrywiaeth 2010.


2.50 p.m.





You will know, Minister, that the red list records the decline in various species, and position in relation to birds has now reached its worst position ever. British birds on the red list number 52, and the list shows a 20 per cent increase in the number of species that are declining, even though they should be common birds, and it includes such iconic species as the cuckoo and the lapwing. [Laughter.] In 1996, there were only 36 species on the red list—


Gwyddoch, Weinidog, fod y rhestr goch yn cofnodi’r dirywiad mewn amrywiol rywogaethau, ac mae’r sefyllfa o ran adar yn waeth nag erioed erbyn hyn. Mae 52 o adar Prydain ar y rhestr goch, ac mae’r rhestr yn dangos cynnydd o 20 y cant yn nifer y rhywogaethau sy’n dirywio, er y dylent fod yn adar cyffredin, ac mae’n cynnwys rhywogaethau eiconig megis y gwcw a’r gornchwiglen. [Chwerthin.] Yn 1996, dim ond 36 o rywogaethau oedd ar y rhestr goch—


The Presiding Officer: Order. This is a serious matter. Some may consider the bird population of this planet to be a laughing matter, but, as a member of the RSPB, I consider it to be a serious matter, and the Assembly will discuss it seriously.


Y Llywydd: Trefn. Mae hwn yn fater difrifol. Efallai fod rhai’n ystyried poblogaeth adar y blaned hon yn rhywbeth i chwerthin yn ei gylch, ond fel aelod o’r RSPB yr wyf yn ei ystyried yn fater difrifol, a bydd y Cynulliad yn ei drafod o ddifrif.

Chris Franks: In 1996, there were only 36 species on the red list, and farmland and woodland species make up a majority of the threatened birds. Minister, what discussions are you having with your colleague about this?


Chris Franks: Yn 1996, dim ond 36 o rywogaethau oedd ar y rhestr goch, a rhywogaethau tir amaeth a choetiroedd yw mwyafrif yr adar sydd dan fygythiad. Weinidog, pa drafodaethau yr ydych yn eu cael gyda’ch cydweithiwr am hyn?

Jane Davidson: Not only do I have discussions with my colleague, Elin Jones, but our officials are in regular discussions with each other. In fact, technical and scientific support is shared by our departments. In the context of Glastir, our departments have worked closely together on its development. We are agreed that the new programme should maximise the wider environmental benefits and help to deliver a more sustainable land-management approach in Wales, and Elin Jones talked the Assembly through this yesterday.


Jane Davidson: Nid yn unig yr wyf fi’n cael trafodaethau gyda’m cydweithiwr, Elin Jones, ond bydd ein swyddogion hefyd yn trafod yn rheolaidd. A dweud y gwir, mae ein hadrannau’n rhannu cefnogaeth dechnegol a gwyddonol. Yng nghyd-destun Glastir, mae ein hadrannau wedi cydweithio’n agos ar y gwaith o’i ddatblygu. Yr ydym yn gytûn y dylai’r rhaglen newydd gynyddu’r manteision amgylcheddol ehangach i’r eithaf, a helpu cyflwyno dull mwy cynaliadwy o reoli tir yng Nghymru, ac eglurodd Elin Jones hyn wrth y Cynulliad ddoe.

In the context of wild bird statistics, the work that is done by the RSPB in its bird survey is tremendously important and complex. Some bird species are declining, such as the bullfinch, coal tit and goldcrest, and others are increasing, such as the dunnock, nuthatch and song thrush. We have a range of actions under way to help to counter the decline that has been recorded. As I said in the statement that I issued earlier in the year, in developing a natural environment framework, we lay out our overall commitments in the context of biodiversity. Sadly, although we have failed to meet the 2010 target, so has everyone else; no-one has met this target, and that is why I issued a statement that we are looking actively at any ways in which we can improve the situation.


Yng nghyd-destun ystadegau ar adar gwylltion, mae’r gwaith y mae’r RSPB yn ei wneud yn ei arolwg adar yn hynod o bwysig a chymhleth. Mae rhai rhywogaethau adar yn dirywio, megis coch y berllan, y titw penddu a’r dryw eurben, ac mae eraill yn cynyddu, megis llwyd y gwrych, telor y cnau a’r fronfraith. Mae gennym ystod o gamau gweithredu ar waith i helpu atal y dirywiad sydd wedi’i gofnodi. Fel y dywedais yn y datganiad a gyhoeddais yn gynharach yn y flwyddyn, wrth ddatblygu fframwaith ar gyfer yr amgylchedd naturiol, yr ydym yn gosod ein hymrwymiadau cyffredinol yng nghyd-destun bioamrywiaeth. Yn anffodus, er inni fethu â chyrraedd targed 2010, mae pawb arall wedi methu hefyd; nid oes neb wedi cyrraedd y targed hwn, a dyna pam y cyhoeddais ddatganiad yn dweud ein bod wrthi’n edrych ar unrhyw ffyrdd i wella’r sefyllfa.


Y Llywydd: Diolch yn fawr i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog. Symudwn yn awr at y ddadl am adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu ar seilwaith rheilffyrdd—mater arall y gwn sydd o ddiddordeb mawr inni yma yn y Cynulliad.


The Presiding Officer: I thank the Minister and the Deputy Minister. We now come to the debate on the Enterprise and Learning Committee report on railway infrastructure—another matter which I know is of great interest to us in the Assembly.


Yüklə 0,72 Mb.

Dostları ilə paylaş:
1   2   3   4   5   6   7   8   9   10   ...   22




Verilənlər bazası müəlliflik hüququ ilə müdafiə olunur ©muhaz.org 2024
rəhbərliyinə müraciət

gir | qeydiyyatdan keç
    Ana səhifə


yükləyin